Barcelona

Barcelona

Mae'r erthygl yma am ddinas Barcelona. Am y tîm pel-droed, gweler FC Barcelona.Dinas Barcelona (dyweder "Barselona") yw prifddinas cymuned ymreolaethol Catalwnia a thalaith Barcelona yng ngogledd-ddwyrain Sbaen, Saif ar lan Môr y Canoldir, rhyw 120 km o'r ffin a Ffrainc. Mae wedi'i leoli rhwng aberoedd afonydd Llobregat a Besòs, a'i ffin orllewinol yw mynyddoedd Serra de Collserola sydd a'i gopa uchaf yn 512 metr (1,680 tr.) o uchter.